Mae llawer ohonom yn adnabod y teimlad – y pryder ein bod ni ddim yn ddigon da, y dychymyg ein bod ar fin cael ein darganfod fel ‘ffugiwr’. Ond beth yn union yw syndrom y ffugiwr (imposter syndrome), a pham mae’n effeithio cymaint ar ein hyder a’n hunan-barch?Yn y bennod hon o Sgwrs?, mae Lois, myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, yr actor a chyflwynydd Luke Davies, ac Endaf Evans, cwnselwr ym Mhrifysgol Bangor, yn trafod y ffordd mae imposter syndrome yn effeithio ar fyfyrwyr, perfformwyr, a phawb sy’n teimlo’r pwysau i fod yn ‘berffaith’.Ydyn ni’n rhoi gormod o bwyslais ar berffeithrwydd? Sut gall cyfryngau cymdeithasol waethygu’r teimlad ein bod ni byth yn gwneud digon? A beth allwn ni ei wneud i feithrin hyder a chael gwared â’r llais bach negyddol sy’n dweud nad ydyn ni’n haeddu ein llwyddiannau?Dyma trafodaeth agored ac ysbrydoledig ar sut i fagu hyder, derbyn ein llwyddiannau, a chreu perthynas iach gyda’n disgwyliadau ein hunain.
--------
31:00
Meddyliau Ymwthiol
Meddyliwch am y foment honno pan mae meddwl annisgwyl yn taro eich meddwl - rhywbeth rhyfedd, brawychus neu hyd yn oed anghyfforddus. Mae gan bawb feddyliau ymwthiol o bryd i’w gilydd, ond beth sy’n digwydd pan fyddan nhw’n parhau i ddychwelyd ac yn dechrau effeithio ar eich bywyd bob dydd?Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn archwilio’r byd cymhleth o feddyliau ymwthiol. Mae Grace, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, y cerddor a chyflwynydd Welsh Whisperer, ac Endaf Evans, cwnselydd i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, yn rhannu eu profiadau a’u harbenigedd ar sut mae’r meddyliau hyn yn effeithio ar iechyd meddwl ac ansawdd bywyd.Pam mae meddyliau ymwthiol yn digwydd? Sut gallan nhw gysylltu â gorbryder ac iselder? A pha effaith mae stigma’n ei gael ar bobl sy’n ei chael hi’n anodd trafod y pwnc? Yn fwyaf pwysig – sut gallwn ni reoli’r meddyliau hyn a dod o hyd i strategaethau i’w ddelio â nhw? Ffeindiwch allan yn y bennod hon, ac ymunwch yn y Sgwrs.
--------
41:12
Hunan Ofal a ‘Burnout’
Mae bywyd prifysgol a gwaith yn gallu bod yn heriol, ac mae’n hawdd anwybyddu ein lles personol wrth i bwysau gynyddu. Ond beth yn union yw burnout, sut gallwn ni ei adnabod, a pham mae hunanofal mor bwysig? Yn y bennod hon o Sgwrs?, mae Hedd, myfyriwr ym Mhrifysgol Wrecsam, y crewr cynnwys Llio Angharad, ac Endaf Evans, cwnselwr ym Mhrifysgol Bangor, yn trafod eu profiadau a’u safbwyntiau ar y pwnc.Beth yw’r camau syml allwn ni eu cymryd i ofalu am ein hunain? Sut gallwn ni oresgyn y rhwystrau sy’n ein hatal rhag blaenoriaethu hunan ofal? A sut allwn ni symud oddi wrth yr syniad bod hun anofal yn foethusrwydd, yn hytrach na rhywbeth hanfodol i’n hiechyd meddwl?
--------
38:20
Delio Gyda Newid
Gall newid fod yn heriol ac yn llawn ansicrwydd, ond gall hefyd ddod â chyfleoedd newydd a phrofiadau gwerthfawr. Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn trafod sut i ymdopi â newid mewn ffyrdd iach ac adeiladol, gan gynnwys symud i'r brifysgol, addasu i sefyllfaoedd annisgwyl, a darganfod cryfder personol drwy gyfnodau o ansicrwydd.Mae Carys, myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr actores Leah Gaffey a’r cwnselydd Karen Jones yn rhannu eu profiadau a’u hawgrymiadau ar greu rhwydweithiau cefnogaeth, goresgyn yr ofn sy’n gallu dod gyda newid, a dysgu sut i ail-fframio heriau fel cyfleoedd i dyfu. Cawn glywed straeon gonest am y ffordd mae newid wedi effeithio ar eu bywydau, a’r dulliau maen nhw wedi eu defnyddio i addasu, ymdopi, a hyd yn oed ffynnu o ganlyniad.
--------
36:54
Procrastinadu
Ydyn ni i gyd yn euog o brocrastinadu? Mae’n hawdd dweud “Gwna i o’n nes ymlaen,” ond cyn i chi sylweddoli, mae oriau wedi mynd heibio ac mae'r gwaith heb ei wneud.Yn y bennod hon o Sgwrs?, rydym yn trafod pam rydym ni’n gohirio tasgau, yr effaith mae hyn yn ei gael ar ein hiechyd meddwl, a sut i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng gorffwys bwriadol a diogi. Ymunwch ag Elliw, myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, y cyflwynydd a’r dylanwadwr Molly Palmer, ac y cwnselydd Sara Childs wrth iddyn nhw rannu eu profiadau a’u hawgrymiadau i helpu torri’r cylch.Os ydych chi’n cael eich hun yn osgoi gwaith, yn sgrolio di-ben-draw neu’n teimlo’n euog am beidio â gwneud digon, mae’r bennod hon yn cynnig syniadau ymarferol i chi ddod yn fwy cynhyrchiol heb leihau'ch lles. Efallai mai'r cam cyntaf yw gwrando!
Ym mhodlediad Sgwrs? mae Trystan Ellis-Morris yn sgyrsio gyda chwnselwyr, myfyrwyr ac ambell wyneb adnabyddus a dylanwadol am bynciau amrywiol yn ymwneud gyda lles a iechyd meddwl. Am fwy o wybodaeth ewch i myf.cymruAriennir Sgwrs? gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.